Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus

 

Lleoliad:

Ystafell Bwyllgora 3 - Senedd

 

 

 

Dyddiad:

Dydd Mawrth, 7 Gorffennaf 2015

 

 

 

Amser:

09.02 - 10.47

 

 

 

Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/2927

 

 

Cofnodion Cryno:

 

 

 

Aelodau’r Cynulliad:

 

Darren Millar AC (Cadeirydd)

Mohammad Asghar (Oscar) AC

Jocelyn Davies AC

Mike Hedges AC

Ann Jones AC (yn lle Sandy Mewies AC)

Julie Morgan AC

Jenny Rathbone AC

Aled Roberts AC

 

 

 

 

 

Tystion:

 

Simon Jones, Llywodraeth Cymru

James Price, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Llywodraeth Cymru

 

 

 

 

 

Staff y Pwyllgor:

 

Michael Kay (Clerc)

Claire Griffiths (Dirprwy Glerc)

Joanest Varney-Jackson (Cynghorydd Cyfreithiol)

Sophie Knott (Swyddfa Archwilio Cymru)

Jeremy Morgan (Swyddfa Archwilio Cymru)

Matthew Mortlock (Swyddfa Archwilio Cymru)

Mike Usher (Swyddfa Archwilio Cymru)

 

 

 

<AI1>

Trawsgrifiad

Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod.

</AI1>

<AI2>

1   Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

1.1        Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

1.2        Cafwyd ymddiheuriadau gan Sandy Mewies. Roedd Ann Jones yn dirprwyo ar ei rhan.

 

</AI2>

<AI3>

2   Buddsoddiad Llywodraeth Cymru yn Seilwaith Band Eang y Genhedlaeth Nesaf: Sesiwn dystiolaeth 2

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan James Price, Dirprwy Ysgrifennydd Parhaol, Grŵp yr Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol, Llywodraeth Cymru a              Simon Jones, Cyfarwyddwr, Cyllid a Pherfformiad, Grŵp yr Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol, Llywodraeth Cymru fel rhan o’i ymchwiliad i Fuddsoddiad Llywodraeth Cymru yn Seilwaith Band Eang y Genhedlaeth Nesaf.

2.2 Cytunodd James Price i anfon nodyn ar:

·         Restr o leoliadau lle mae problemau o ran mynediad wedi bod yn anodd i Openreach

·         Beth y mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl a gaiff ei ddarparu fel rhan o’r gyllideb farchnata o £1.7m, a sut y caiff ei defnyddio ar sail ddaearyddol.

·         Hawliau datblygu a ganiateir

·         Cyflwyno Ffeibr yn Ôl y Galw

·         Lleoliadau ble y bydd contractau ychwanegol yn ofynnol yn dilyn y cyhoeddiad a ddisgwylir ar brosiect ‘Mewnlenwi Cyfnod 2’

 

 

</AI3>

<AI4>

3   Papurau i’w nodi

3.1 Cafodd y papurau eu nodi.

 

</AI4>

<AI5>

3.1 Trefniadau Cyflenwi ar gyfer Absenoldeb Athrawon: Llythyr gan Owen Evans, Cyfarwyddwr Cyffredinol yr Adran Addysg a Sgiliau (29 Mehefin 2015)

 

</AI5>

<AI6>

3.2 Diwygio Lles: Dogfen Bolisi Taliadau Tai Dewisol Cymru Gyfan

 

</AI6>

<AI7>

4   Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn:

4.1 Cytunwyd ar y cynnig.

 

</AI7>

<AI8>

5   Buddsoddiad Llywodraeth Cymru yn Seilwaith Band Eang y Genhedlaeth Nesaf: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

5.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod y dystiolaeth a ddaeth i law.

 

</AI8>

<AI9>

6   Ymdrin â’r Heriau Ariannol sy’n Wynebu Llywodraeth Leol yng Nghymru: Trafod yr ohebiaeth.

6.1 Nododd yr Aelodau’r llythyr gan Archwilydd Cyffredinol Cymru a chytunodd y dylai’r Cadeirydd gopïo’r ohebiaeth ddiweddar ag Owen Evans, y Dirprwy Ysgrifennydd Parhaol sydd newydd ei benodi, sydd â chyfrifoldeb dros hyn, yn gofyn am ei ystyriaethau ynghylch y cwestiynau a ofynnwyd. Bydd y Pwyllgor yn ystyried y mater hwn eto ym mis Medi.

 

</AI9>

<AI10>

7  
Blaenraglen waith

7.1 Nodwyd y papur gan yr Aelodau. Gofynnwyd i’r Clercod, fodd bynnag, ail-drefnu’r cyfarfod a awgrymwyd y dylid ei gynnal ddydd Llun 28 Medi i ddydd Llun arall, oherwydd bod nifer o’r Aelodau i ffwrdd.

7.2 Cytunodd yr Aelodau â’r rhestr o gyrff a awgrymwyd ar gyfer craffu ar gyfrifon, a chytunodd i baratoi papur etifeddiaeth hefyd.

7.3 Nododd yr Aelodau gais y Cadeirydd am sesiwn ymadawol gyda’r Cyfarwyddwyr Cyffredinol, o gofio’r ymadawiadau diweddar o Lywodraeth Cymru. Dywedwyd wrth y Cadeirydd nad oedd sesiwn ymadawol gyda’r Cyfarwyddwyr Cyffredinol a oedd yn gadael yn briodol oherwydd bod amgylchiadau eu hymadawiad yn wahanol iawn i ymadawiadau Cyfarwyddwyr Cyffredinol blaenorol.

 

 

</AI10>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

 

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

 

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>